Os ydych chi’n poeni am iechyd meddwl a lles meddyliol rhywun arall, mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud. 
  1. Siaradwch
  2. Adroddwch
  3. Ceisiwch gymorth
Siaradwch

Os ydych chi’n poeni am rywun, gallwch gysylltu â nhw a gweld sut maen nhw, ac a ydynt yn teimlo’n gyfforddus i drafod unrhyw bryder. Fodd bynnag, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â chynghorydd lles meddwl am sgwrs gyfrinachol.

Os ydych yn credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol neu wedi’i anafu’n ddifrifol, gallwch ffonio 999 (neu 112 o ffôn symudol).  

Grwpiau trefniadol o weithwyr sy’n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn y gweithle yw undebau llafur. Mae nifer o undebau llafur yn ein diwydiant gan gynnwys TCU, TUC ac NTU a gallwch gysylltu â nhw i weld pa gymorth y gallant ei ddarparu.

Adroddwch

Gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i bryderon lles meddwl mewn meysydd penodol o’r sefydliad.

Ceiswich gymorth

Ewch i’n tudalennau cymorth cyffredinol i gyfeirio’r person yr effeithir arno, neu os ydych am drafod y ffordd orau i chi gefnogi rhywun.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd