Diolch am roi gwybod i ni/dewis adrodd rhywbeth sydd wedi digwydd. Efallai fod pethau’n teimlo’n anodd ar hyn o bryd, ond mae’r adroddiad hwn yn golygu y gallwn geisio: gweithio gyda’n gilydd i edrych ar ffyrdd ymlaen rydych chi’n teimlo’n gyfforddus â nhw; atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto.
Pan fyddwch yn cyflwyno’r adroddiad hwn, bydd y Coleg yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r dull cysylltu o’ch dewis o fewn pum diwrnod gwaith. Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy’n mynd yn groes i’n polisi preifatrwydd.