Adrodd

“Mae CBCDC yn ofod i bawb – mae cynwysoldeb yn werth craidd ac rydym yn parchu ein gilydd. Mae hyn yn hollbwysig i’n rhagoriaeth” 

Os ydych chi’n credu eich bod wedi profi neu wedi bod yn dyst i unrhyw fath o ymddygiad sydd wedi effeithio’n niweidiol ar eich profiad chi (neu brofiad rywun arall) yn CBCDC, rydym yn eich annog i’n hysbysu ni. Mae hyn yn cynnwys gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio, ymddygiad amhriodol, microymosodiadau a thrais geiriol, rhywiol neu gorfforol o unrhyw fath, ynghyd ag unrhyw brofiadau eraill yr hoffech eu hysbysu i ni.

Defnyddiwch y botwm ‘Dywedwch wrthym beth ddigwyddodd’ isod i rannu cymaint o wybodaeth ag yr ydych chi’n hyderus yn ei rhannu ac i gychwyn sgwrs gyda ni, os hoffech chi wneud hynny. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r botwm ‘Dweud wrthym yn ddienw’ isod i roi gwybod am rywbeth heb rannu eich manylion, gan ddeall bod y math hwn o adroddiad yn effeithio ar sut gallwn ymateb.

Rydym wedi paratoi siartiau llif i egluro beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno adroddiad. Rydym hefyd yn eich annog i edrych ar y tudalennau cymorth isod.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd