Pwy ydym ni


Enw’r Sefydliad | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.
Cyfeiriad y Sefydliad | Maes y Castell
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ER
Rhif Cofrestru Tŷ’r Cwmnïau | 6013744
Rhif Cofrestru SCG | Z9702162
Swyddog Diogelu Data Dynodedig | Rheolwr TG
Ffôn: 029 2039 1382
E-bost: DPO@rwcmd.ac.uk
Natur y Sefydliad | Lleoliad Addysg Uwch a’r Celfyddydau 

Awdurdod cyhoeddus yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ynglŷn â’r hysbysiad hwn


Mae’r Coleg yn ystyried diogelu holl wybodaeth bersonol (data) yn ddifrifol ac mae’n gwbl ymrwymedig i warchod hawliau a rhyddidau pob unigolyn mewn perthynas â phrosesu eu data personol. Bydd prosesu holl wybodaeth bersonol yn unol â chyfreithiau diogelu data. Mae hyn yn cael ei wneud yn unol â:

  • Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
  • Deddfwriaeth gysylltiedig
  • Cyfraith achosion ac ysbryd y Rheoliad
  • Mae hysbysiad y Coleg fel rheolydd data gyda Chomisiynydd Gwybodaeth y DU (Rhif Cyfeirnod: Z9702162) sy’n amlinellu’r dibenion ar gyfer yr hyn y mae’r Coleg yn dal ac yn prosesu data personol ynglŷn â gweithwyr, myfyrwyr, graddedigion ac eraill.
Pwrpas y rhybudd hwn yw rhoi trosolwg cyffredinol i chi ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych chi yn uniongyrchol ac oddi wrth drydydd parti. 

 

Eich gwybodaeth bersonol - pam rydym ei hangen

Os ydych yn defnyddio Adrodd a Chymorth i adrodd am ddigwyddiad a brofwyd neu a dystiwyd gennych yn y Coleg mae gennych yr opsiwn i ddarparu gwybodaeth bersonol amdanoch megis manylion cyswllt a gwybodaeth am y digwyddiad. Prif ddiben Adroddiad a Chymorth yw galluogi myfyrwyr a staff y Coleg i gael cymorth. 
 
Mae gennych ddau opsiwn o ran sut y gallwch gyflwyno adroddiad – adroddiad wedi’i enwi gyda’ch manylion cyswllt neu adroddiad dienw. 
 
Mewn adroddiad a enwir, mae’r Coleg mewn gwell sefyllfa i ymateb i’r digwyddiad a chynnig cefnogaeth i chi. 
Mewn adroddiad dienw, lle rydych wedi dewis peidio â rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt i ni, ni all y Coleg eich cefnogi’n uniongyrchol mewn perthynas â’r digwyddiad. 
 
Bydd y Coleg yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir mewn adroddiadau dienw at ddibenion dadansoddol megis monitro tueddiadau neu batrymau i helpu i lywio ein penderfyniadau, er enghraifft, newid neu ddatblygiad polisi neu weithdrefn. 
 
Mewn adroddiad a enwyd ac adroddiad dienw, gofynnir i chi ddarparu'r data categori arbennig canlynol: 
 
·         Gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig (e.e. oedran, anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, ethnigrwydd, rhyw, crefydd neu gred, a chyfeiriadedd rhywiol) 
 
Wrth ddarparu'r wybodaeth hon, rydych yn galluogi'r Coleg i fonitro unrhyw dueddiadau neu batrymau mewn perthynas â'r nodweddion hyn. Eich dewis chi yw darparu'r wybodaeth hon i ni; mae opsiwn ‘gwell gennyf beidio â dweud’ ar gael. 


Am faint o amser ydych chi'n cadw fy ngwybodaeth?


Cedwir gwybodaeth bersonol a gasglwyd yn unig am y cyfnod a osodwyd yn Atodlen Cadw Gwybodaeth y Coleg. 
 

Eich hawliau


Os ydych chi ar unrhyw adeg yn credu bod y wybodaeth yr ydym yn ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, mae gennych chi hawl i ofyn am gael gweld y wybodaeth hon a chywiro neu ddileu’r wybodaeth. Yn ogystal, mae gennych chi hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, cywiro, dileu, cyfyngu a throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol.

Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn ynglŷn â sut yr ydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater. Os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb neu’n credu nad ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r gyfraith, gallwch chi gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
ico.org.uk 

 
Sail gyfreithiol 
Rydym yn brosesu eich data ar y sail gyfreithiol yma:
 
Gyda’ch caniatad penodol

Ar gyfer unrhyw sefyllfaoedd, lle nad yw’r ddau faes uchod yn briodol, byddwn yn lle hynny yn gofyn am eich caniatâd penodol cyn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y sefyllfa benodol honno. 


Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd