Dyma rai ffynonellau o gymorth cyffredinol:
- Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o aflonyddu a throseddau casineb y gall pobl eu profi gan gynnwys troseddau casineb anabledd, troseddau casineb hiliol a chrefyddol, aflonyddu rhywiol, a throseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol.
- Mae True Vision yn cynnig arweiniad ar adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb. Os nad ydych yn dymuno siarad ag unrhyw un yn bersonol am y digwyddiad, neu’n dymuno aros yn ddienw, mae ffurflen ar-lein ar gyfer adrodd am droseddau casineb; gallwch riportio digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau i’r heddlu i geisio atal unrhyw waethygu o ran difrifoldeb.
- Mae Disability Equality NW yn cynnal Prosiect Developing from the Negatives (DFN) sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb Anabledd ac annog adrodd.
- Mae Tell MAMA yn cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslimaidd ac mae’n wasanaeth cyhoeddus sydd hefyd yn mesur ac yn monitro digwyddiadau gwrth-Fwslimaidd.
- Mae Community Security Trust (CS) yn helpu’r rheini sy’n ddioddefwyr casineb, aflonyddu neu ragfarn gwrth-Semitaidd.
- Timau Plismona Cymdogaeth. Mae gan wefan Heddlu Manceinion Fwyaf restr o Dimau Plismona Cymdogaeth fesul ardal ym Manceinion, y gallwch gysylltu â nhw i gael manylion eich Tîm Plismona Cymdogaeth; sut i drefnu ymweliad gan eich Tîm Plismona Cymdogaeth ac asiantaethau cymorth lleol.
- Cymorth i Ddioddefwyr. Pan fyddwch yn riportio trosedd i’r heddlu, dylent ofyn yn awtomatig i chi a hoffech gael cymorth gan sefydliad megis Cymorth i Ddioddefwyr. Ond gall unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd gysylltu â nhw’n uniongyrchol, nid oes angen i chi siarad â’r heddlu i gael help gan Cymorth i Ddioddefwyr.