Credwn nad yw gwahaniaethu anghyfreithlon byth yn dderbyniol. 
 
Mae gwahaniaethu’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth), beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw neu  cyfeiriadedd rhywiol. 
 
Mae gwahaniaethu anghyfreithlon yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a pholisïau ymddygiad myfyrwyr a staff y Coleg. 
 
Gwahaniaethu uniongyrchol 
Mae hyn yn golygu trin rhywun yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd nodwedd warchodedig. Yn achos oedran, 
efallai y gellir cyfiawnhau trin rhywun llai ffafriol na rhywun arall. Enghraifft arall fyddai gwrthod derbyn myfyriwr oherwydd eu hil, er enghraifft oherwydd eu bod yn Roma. 
 
Nid yw’n bosibl cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol, felly mae bob amser yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r darpariaethau addysg bellach ac uwch sy’n caniatáu, er enghraifft, i sefydliadau derbyn myfyrwyr o un rhyw yn unig heb i hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon. 
 
Er mwyn i rywun ddangos ei fod wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol, rhaid iddynt gymharu’r hyn sydd wedi digwydd iddynt â’r driniaeth y mae person heb ei nodwedd warchodedig yn ei chael neu’n ei derbyn. Felly ni all myfyriwr hoyw honni eu bod wedi'u gwahardd am ymladd yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol oni bai eu bod yn gallu dangos na fyddai myfyriwr heterorywiol neu ddeurywiol yn cael ei wahardd am ymladd. Nid oes angen i fyfyriwr ddod o hyd i berson gwirioneddol i gymharu ei driniaeth ag ef ond gall ddibynnu ar berson damcaniaethol os gall ddangos bod tystiolaeth y byddai person o'r fath yn cael ei drin yn wahanol. 
 
Nid oes angen i rywun sy’n hawlio gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd arwahanu hiliol neu feichiogrwydd neu famolaeth ddod o hyd i berson i gymharu a'i hun:
 
  • Gwahanu hiliol yw gwahanu pobl yn fwriadol yn ôl hil neu liw neu darddiad ethnig neu genedlaethol a bydd bob amser yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon. 
  • I hawlio gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu famolaeth rhaid i fyfyrwraig ddangos ei bod wedi cael ei thrin yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd neu ei mamolaeth ac nid oes rhaid iddi gymharu ei thriniaeth â thriniaeth rhywun nad oedd yn feichiog neu fam newydd. 
Nid yw'n wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn myfyriwr gwrywaidd i gynnig triniaeth arbennig i fyfyrwraig fenywaidd mewn cysylltiad â'i beichiogrwydd neu eni plentyn. 
 
Nid yw'n wahaniaethu uniongyrchol yn erbyn myfyriwr nad yw'n anabl i drin myfyriwr anabl yn fwy ffafriol. 

 
Beth allwch chi ei wneud?

Siarad - Os effeithiwyd ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch annog yr unigolyn i geisio cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes nifer o achosion mewn un maes.

Darganfod mwy: Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu rhagor o wybodaeth am aflonyddu anghyfreithlon.

Ceisio cymorth - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol sy’n darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela, i’r rheini yr effeithir arnynt gan aflonyddu. Gallech annog eich cydweithiwr i estyn allan am gymorth o’r fath. 
 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd