Nid yw unrhyw fath o drosedd casineb byth yn dderbyniol. Rydym yn condemnio ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a throseddau casineb o dan y gyfraith. Os ydych chi’n adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt gan achos o aflonyddu, nid ydych chi ar eich pen eich hun, mae cymorth ar gael. 

Beth yw troseddau casineb?

Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn teimlo sydd wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, yn seiliedig ar anabledd neu anabledd canfyddedig; hil neu hil canfyddedig; crefydd neu grefydd canfyddedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig neu hunaniaeth drawsryweddol neu hunaniaeth drawsryweddol ganfyddedig person.

Mae enghreifftiau o droseddau casineb yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 
  • ymosodiad corfforol 
  • cam-drin geiriol, bygythiadau neu alw enwau 
  • annog casineb, pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn modd sy’n fygythiol ac y bwriedir iddo ysgogi casineb. Gallai hyn fod ar ffurf geiriau, lluniau, fideos, cerddoriaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth ar wefannau. 
Beth allwch chi ei wneud?

Siarad - Os effeithiwyd ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch annog yr unigolyn i geisio cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes nifer o achosion mewn un maes.

Darganfod mwy:
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu rhagor o wybodaeth am aflonyddu anghyfreithlon.

Ceisio cymorth - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol sy’n darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela, i’r rheini yr effeithir arnynt gan aflonyddu. Gallech annog eich cydweithiwr i estyn allan am gymorth o’r fath. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd