Os ydych chi’n credu bod rhywun yn cael ei fwlio neu’n dioddef aflonyddu mae llawer o ffyrdd y gallwch eu helpu.

Mae bwlio ac aflonyddu yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Pholisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y Brifysgol. Mae deall yr ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwlio ac aflonyddu yn lle da i ddechrau. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu disgrifio beth sydd wedi, neu sydd yn, digwydd iddynt a sut mae hynny’n gwneud iddynt deimlo. 

Bwlio yw ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus sy’n ymwneud â chamddefnyddio pŵer a all wneud i berson deimlo’n agored i niwed, yn ofidus, wedi’i fychanu, wedi’i danseilio neu dan fygythiad. Aflonyddu yw ymddygiad pan fo rhywun yn fwriadol neu’n anfwriadol yn tarfu ar urddas unigolyn, neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus sy’n amharu ar amgylchedd dysgu, gweithiol neu gymdeithasol unigolyn.

Gall aflonyddu gynnwys aflonyddu rhywiol neu fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Dysgwch fwy am aflonyddu rhywiol.

Caiff rhai mathau o aflonyddu eu hystyried yn Droseddau Casineb. Digwyddiad neu drosedd casineb yw unrhyw weithred o drais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn tuag at berson oherwydd nodwedd warchodedig arbennig. Dysgwch fwy am droseddau casineb.

Meddyliwch 
  • A ydych mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dewch o hyd i le diogel. Os oes digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel.
  • Beth yw bwlio ac aflonyddu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan fwlio ac aflonyddu a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn.  
Siaradwch
  • Gwrandewch. Gall treulio amser yn gwrando ar rywun a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd helpu. Gallai’r chwe chyngor gwrando gweithredol hyn eich helpu i gefnogi’r unigolyn.
Fe’u cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2015 ac maent yn seiliedig ar ganllawiau’r Samariaid ar gyfer gwrando gweithredol
  • Rhowch opsiynau. Pan fydd yr unigolyn wedi gorffen siarad, gofynnwch iddo ef neu hi a yw’n hapus i drafod opsiynau posibl a’r camau nesaf.
  • Cynghorydd Cymorth Aflonyddu. Gall cynghorydd drafod gweithdrefnau’r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, a hynny’n gyfrinachol. Gall cynghorwyr siarad â rhywun sy’n profi rhywbeth, neu rywun sy’n cefnogi’r person hwnnw. 
Adroddwch
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn.
Ceisiwch gymorth
  • Canfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich bwlio neu wedi dioddef aflonyddu.
Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol
Effeithir ar 1 o bob 4 o bobl gan broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol ac amcangyfrifir bod tua 1 o bob 5 o bobl wedi ystyried hunanladdiad neu hunan-niwed.
  • Os ydych yn bryderus gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y galwch eu helpu.
  • Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni, mae Gwasanaeth Cwnsela’r Brifysgol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac mae ar gael i fyfyrwyr a staff.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd