Nid yw aflonyddu byth yn dderbyniol. Rydym yn condemnio ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys pob math o aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Os ydych chi’n adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt gan achos o aflonyddu, nid ydych chi ar eich pen eich hun, mae cymorth ar gael. 

Beth yw aflonyddu? 

Aflonyddu yw ymddygiad corfforol, geiriol neu ddi-eiriau a allai (yn fwriadol neu’n anfwriadol) darfu ar urddas unigolyn neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus, sy’n amharu ar amgylchedd dysgu, gweithiol neu gymdeithasol unigolyn. Mae hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd ei fod wedi ildio neu wrthod ildio i ymddygiad o’r fath yn y gorffennol.

Gall aflonyddu anghyfreithlon gynnwys aflonyddu rhywiol neu fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn credu bod aflonyddu yn annerbyniol hyd yn oed os nad yw’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau hyn. 

Gall enghreifftiau o aflonyddu gynnwys:
  • ymddygiad corfforol digroeso neu ‘chwarae gwirion’, gan gynnwys cyffwrdd, pinsio, gwthio, cydio, brwsio heibio rhywun, tarfu ar amgylchedd personol rhywun a mathau mwy difrifol o ymosodiad corfforol neu rywiol
  • sylwadau neu ystumiau sarhaus neu fygythiol, neu adrodd jôcs neu chwarae triciau sy’n ansensitif
  • gwatwar, dynwared neu fychanu anabledd person
  • adrodd jôcs hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu oedraniaethol, neu wneud sylwadau difrïol neu ystrydebol am grŵp ethnig neu grefyddol neu ryw penodol
  • cyhoeddi neu fygwth cyhoeddi bod rhywun yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws
  • anwybyddu neu gadw rhywun draw, er enghraifft, trwy eu gwahardd yn fwriadol o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol.

Gellir aflonyddu ar unigolyn hyd yn oed os nad y person dan sylw oedd y "targed" bwriedig. Er enghraifft, gellir aflonyddu ar rywun gan jôcs hiliol am grŵp ethnig gwahanol os ydynt yn creu amgylchedd sarhaus.

Beth allwch chi ei wneud?

Siarad - Os effeithiwyd ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch annog yr unigolyn i geisio cymorth. Fel arall, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes nifer o achosion mewn un maes.

Darganfod mwy: Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu rhagor o wybodaeth am aflonyddu anghyfreithlon.

Ceisio cymorth - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol sy’n darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela, i’r rheini yr effeithir arnynt gan aflonyddu. Gallech annog eich cydweithiwr i estyn allan am gymorth o’r fath.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd