Rydym yn credu nad yw gwahaniaethu anghyfreithlon byth yn dderbyniol.

Mae gwahaniaethu’n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth), beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw neu rywedd, cyfeiriadedd rhywiol.

Mae gwahaniaethu anghyfreithlon yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Pholisi Urddas yn y Gweithle ac Astudio’r Brifysgol.

Meddyliwch 
  • Beth yw gwahaniaethu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn sy’n gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon.
Siaradwch
  • Gyda ffrind. Gall trafod pethau gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt helpu weithiau. 
  • Gyda Chynghorydd Cymorth Aflonyddu. Gall cynghorydd drafod gweithdrefnau’r Brifysgol, sut i wneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol.
Adroddwch
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn.
Ceisiwch gymorth
  • Canfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol
Effeithir ar 1 o bob 4 o bobl gan broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol ac amcangyfrifir bod tua 1 o bob 5 o bobl wedi ystyried hunanladdiad neu hunan-niwed.
  • Canfyddwch ragor am y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd a lles meddyliol.
  • Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni, mae Gwasanaeth Cwnsela’r Brifysgol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac mae ar gael i fyfyrwyr a staff

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd