Nid yw unrhyw fath o gamymddwyn, ymosodiad neu aflonyddu rhywiol byth yn dderbyniol. 

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi bod yn darged camymddwyn, ymosodiad neu aflonyddu rhywiol, efallai y bydd yn anodd gwybod beth i’w wneud neu sut i deimlo. Nid eich bai chi oedd yr hyn a ddigwyddodd. Eich dewis chi yw’r hyn a wnewch nesaf. 

Mae’r mathau hyn o ymddygiad annerbyniol yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Pholisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y Brifysgol.


Meddyliwch
  • A ydych mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dewch o hyd i le diogel. Os oes digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel. 
  • Beth yw camymddwyn ac ymosodiad rhywiol?  Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan fwlio ac aflonyddu a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn.  
Adroddwch
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn.
Ceisiwch gymorth
  • Canfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich bwlio neu wedi dioddef aflonyddu.
Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol
  • Canfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol
  • Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni, mae Gwasanaeth Cwnsela’r Brifysgol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac mae ar gael i fyfyrwyr a staff.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd