Rydym yn credu nad yw bwlio ac aflonyddu byth yn dderbyniol.

Bwlio yw ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus sy’n ymwneud â chamddefnyddio pŵer a all wneud i berson deimlo’n agored i niwed, yn ofidus, wedi’i fychanu, wedi’i danseilio neu dan fygythiad. Aflonyddu yw ymddygiad pan fo rhywun yn fwriadol neu’n anfwriadol yn tarfu ar urddas unigolyn, neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus sy’n amharu ar amgylchedd dysgu, gweithiol neu gymdeithasol unigolyn.

Gall aflonyddu gynnwys aflonyddu rhywiol neu fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Caiff rhai mathau o aflonyddu eu hystyried yn Droseddau Casineb. Digwyddiad neu drosedd casineb yw unrhyw weithred o drais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn tuag at berson oherwydd nodwedd warchodedig arbennig.

Mae bwlio ac aflonyddu yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Pholisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y Brifysgol.

Meddyliwch 
  • A ydych mewn perygl uniongyrchol? Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dewch o hyd i le diogel. Os oes digwyddiad newydd ddigwydd ceisiwch ddod o hyd i rywle lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel.
  • Beth yw bwlio ac aflonyddu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn a olygir gan fwlio ac aflonyddu a sut y disgrifir yr ymddygiadau hyn.  
Adroddwch
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewiswch siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael i chi, yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen i chi eu dilyn.
Ceisiwch gymorth
  • Canfyddwch pa gymorth sydd ar gael os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich bwlio neu wedi dioddef aflonyddu.
Iechyd Meddwl a Lles Meddyliol
  • Canfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol
  • Gofalwch am eich hun. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich hun. Os ydych wedi clywed rhywbeth sy’n peri gofid i chi neu os oes rhywbeth yn eich poeni, mae Gwasanaeth Cwnsela’r Brifysgol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac mae ar gael i fyfyrwyr a staff.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd