Nid yw ymosodiad o unrhyw fath yn dderbyniol. Os effeithiwyd arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod gan ymosodiad, yna rydym yn eich annog i geisio cymorth.

Gall rhai mathau o ymosodiad hefyd fod yn gyfystyr â throseddau, neu droseddau casineb.

Ymosodiad geiriol

Mae ymosod geiriol yn ei gwneud hi’n drosedd defnyddio iaith fygythiol, cam-driniol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun arall.

Ymosodiad corfforol

Ymosodiad corfforol yw unrhyw weithred lle mae person yn fwriadol neu’n ddi-hid yn achosi i rywun arall ddioddef neu fod ofn trais anghyfreithlon uniongyrchol. Mae’r term ymosodiad yn cael ei ddefnyddio’n aml i gynnwys curo, sy’n cael ei gyflawni trwy ddefnyddio grym anghyfreithlon ar berson arall yn fwriadol neu’n ddi-hid.

Ymosodiad rhywiol

Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd ac nid yn ymddygiad ar gyfer gweithdrefn gwyno a disgyblu’r brifysgol. Mae person yn cyflawni ymosodiad rhywiol os yw’n cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol, mae’r cyffwrdd yn rhywiol ac nid yw’r person yn cydsynio. 

Mae’n cynnwys pob cysylltiad corfforol digroeso o natur rywiol ac mae’n amrywio o binsio, cofleidio, byseddu a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy’n cynnwys treiddiad heb gydsyniad.

Cydsyniad yw cytuno drwy ddewis, a chael y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw.

Mae person yn rhydd i wneud dewis os na fyddai dim byd drwg yn digwydd iddo/iddi pe bai’n dweud na.

Mae galluedd yn ymwneud ag a yw rhywun yn gallu gwneud dewis yn gorfforol a/neu’n feddyliol a deall canlyniadau’r dewis hwnnw.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd