Ni ddylai unrhyw un orfod byw gyda’r ofn a’r pryder y gall troseddau casineb ei achosi.
 
Termau a ddefnyddir i ddisgrifio gweithredoedd o drais neu elyniaeth sydd wedi’u cyfeirio at bobl oherwydd pwy ydynt neu pwy y mae rhywun yn meddwl ydynt yw ‘digwyddiadau casineb’ a ‘throseddau casineb’. Cânt eu hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn ar sail anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall hyn fod yn ddigwyddiad yn erbyn person neu yn erbyn eiddo ac mae’n cynnwys deunyddiau sy’n cael eu postio ar-lein.
 
Lansiwyd ymgyrch gwrth-droseddau casineb cenedlaethol #BetterThanThat, wedi’i chefnogi gan y llywodraeth, mewn ymateb i’r cynnydd mewn digwyddiadau ar ôl refferendwm yr UE. Mae’r ymgyrch yn agored i bob sefydliad sy’n barod i gefnogi’r frwydr yn erbyn troseddau casineb.
 
Mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bob trosedd casineb. Byddai pob heddlu eisiau i chi riportio troseddau casineb ac maent yn cymryd pob adroddiad o droseddau o’r fath o ddifrif. Mae Heddlu Manceinion Fwyaf bellach yn cydnabod digwyddiadau casineb isddiwylliant amgen. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar olwg rhywun ac yn cynnwys Goths, Emos, Pync a grwpiau tebyg eraill. Mae hyn yn golygu y byddant yn cofnodi unrhyw ddigwyddiadau o’r fath fel digwyddiad casineb.
 
Digwyddiadau Casineb 
Mae rhai enghreifftiau o ddigwyddiadau casineb yn cynnwys:
  • cam-drin geiriol megis galw enwau a gwneud jôcs sarhaus
  • aflonyddu
  • bwlio neu achosion o fygwth gan blant, oedolion, cymdogion neu ddieithriaid
  • ymosodiadau corfforol megis taro, dyrnu, gwthio, poeri
  • bygythiadau o drais
  • galwadau ffug, negeseuon ffôn neu destun sarhaus, post casineb
  • cam-drin ar-lein, er enghraifft ar Facebook neu Twitter
  • arddangos neu rannu llenyddiaeth neu bosteri gwahaniaethol
  • niwed neu ddifrod i bethau megis eich cartref, anifail anwes neu gerbyd
  • graffiti
  • llosgi bwriadol
  • taflu sbwriel i ardd
  • cwynion maleisus, er enghraifft ynglŷn â pharcio, arogleuon neu sŵn

Troseddau Casineb
Pan ddaw digwyddiadau casineb yn droseddau fe’u gelwir yn droseddau casineb. Mae trosedd yn rhywbeth sy’n torri’r gyfraith. Mae rhai enghreifftiau o droseddau casineb yn cynnwys:
  • ymosodiadau
  • difrod troseddol
  • aflonyddu
  • llofruddiaeth
  • ymosodiad rhywiol
  • lladrad
  • twyll
  • byrgleriaeth
  • post casineb
  • aflonyddu

Troseddau Casineb Hiliol a Chrefyddol 
Mae troseddau hiliol a chrefyddol yn arbennig o niweidiol i ddioddefwyr gan eu bod yn cael eu targedu dim ond oherwydd eu hunaniaeth bersonol: eu tarddiad hiliol neu ethnig, cred neu ffydd gwirioneddol neu ganfyddedig. Gall y troseddau hyn ddigwydd ar hap neu fod yn rhan o ymgyrch o aflonyddu ac erledigaeth barhaus. 

Troseddau Casineb Homoffobig a Thrawsffobig
Yn y gorffennol, anaml yr adroddwyd am ddigwyddiadau yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol a hyd yn oed yn anamlach fyth y byddent yn cael eu herlyn. Mae astudiaethau ymchwil yn awgrymu mai ychydig iawn o hyder sydd gan ddioddefwyr, neu dystion i ddigwyddiadau o’r fath, yn y system cyfiawnder troseddol. 
Troseddau Casineb Anabledd
Mae teimlo’n anniogel a bod yn anniogel oherwydd trais, aflonyddu neu stereoteipio negyddol yn cael effaith sylweddol ar deimlad pobl anabl o ddiogelwch a lles. Mae hefyd yn effeithio’n sylweddol ar eu gallu i gymryd rhan yn gymdeithasol ac yn economaidd yn eu cymunedau.

Darganfod mwy 
  • Mae True Vision yn cynnig arweiniad ar adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb. Os nad ydych yn dymuno siarad ag unrhyw un yn bersonol am y digwyddiad, neu’n dymuno aros yn ddienw, mae ffurflen ar-lein ar gyfer adrodd am droseddau casineb; gallwch riportio digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau i’r heddlu i geisio atal unrhyw waethygu o ran difrifoldeb.
  • Troseddau Casineb ar y Rhyngrwyd. Mae True Vision hefyd yn darparu gwybodaeth bellach am droseddau casineb ar y rhyngrwyd. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd