Nid yw bwlio byth yn dderbyniol. Gall fod yn anodd deall beth ydyw oni bai eich bod wedi ei brofi neu ei weld. Dyma rai diffiniadau defnyddiol:
Bwlio
Bwlio yw ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus sy’n ymwneud â chamddefnyddio pŵer a all wneud i berson deimlo’n agored i niwed, yn ofidus, wedi’i fychanu, wedi’i danseilio neu dan fygythiad. Nid yw pŵer bob amser yn golygu bod mewn sefyllfa o awdurdod, ond gall gynnwys cryfder personol a’r pŵer i orfodi trwy ofn neu fygythiad.
Gall bwlio fod ar ffurf ymddygiad corfforol, geiriol a di-eiriau. Mae ymddygiad di-eiriau yn cynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Gall bwlio gynnwys y canlynol:
- gweiddi ar, bod yn sarcastig tuag at, gwawdio neu ddiraddio eraill
- bygythiadau corfforol neu seicolegol
- lefelau gormesol a bygythiol o oruchwyliaeth
- sylwadau amhriodol a/neu ddirmygus am berfformiad rhywun
- camddefnydd awdurdod neu bŵer gan rai sydd mewn swyddi uchel
- gwahardd rhywun yn fwriadol o gyfarfodydd neu ohebiaeth heb reswm da
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun, cysylltwch â chynghorydd. Neu gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes sawl achos mewn un maes.